Cafodd Fferm Wynt Alltwalis, sydd i'r gogledd o dref Caerfyrddin yng Nghymru, ganiatad cynllunio gan Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Mawrth 2007. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn Nhachwedd 2008, a disgwylir y bydd y fferm wynt yn gweithio'n llawn erbyn Ionawr 2010. Statkraft Wind UK Ltd.sydd biau'r prosiect yn gyfangwbl bellach.
10 tyrbin gwynt sydd i'r cynllun, a bydd eu maint cyflawn yn 23 megawat (MW) wedi iddynt gael eu rhoi i mewn. Disgwylir y bydd o gwmpas 65 awr gigawat (GWh) o drydan yn cael ei gynhyrchu - digon i gyflenwi tua 16,000o dai yn y D.U. รข thrydan 'gwyrdd'
Siemens Wind Power yw'r dewis fel cyflenwyr y tyrbini, a Carillion sydd wedi ennill y cytundeb adeiladu.
Click here to view the site in English.
Oni nodir yn wahanol, delweddau o fferm wynt weithredol rywle arall a ddefnyddir, hyd nes y bydd delweddau o Fferm Wynt Alltwalis ar gael.