Tudalen Newyddion Diweddaraf
Mawrth 25ain 2010
Hoffem ddiolch i’r cannoedd o drigolion lleol a ddychwelodd eu ffurflenni balot ymddiriedolwr cronfa fudd gymunedol. Roedd y gyfradd ymateb yn 24% canmoladwy iawn ac mae’r trigolion canlynol wedi eu hethol;
Elizabeth Beynon (Pencader)
Dewi Davies (Llanllwni)
Eirlys Davies (Llanllwni)
Michael Harrington (Llanllwni)
Alison Pritchard (Alltwalis)
Cliciwch yma os gwelwch yn dda am fwy o wybodaeth.
15fed Chwefror 2010
Mae’r bleidlais gymunedol i ethol cynrychiolwyr cymunedol ar gyfer Ymddiriedolaeth Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis ar waith, gyda phecynnau pleidleisio wedi eu dosbarthu i holl drigiolion cylch etholiadol Llanfihangel-yr-Arth.
Bydd trigolion yn medru pleidleisio i 4 ymgeisydd. Mae ganddynt tan 8 Mawrth i anfon eu papurau pleidleisio yn ôl.
Cysylltwch â ni os nad ydych wedi derbyn y wybodaeth.
Ionawr 2010
Mae Statkraft ar hyn o bryd yn ymchwilio i nifer o gwynion am sŵn yn dilyn comisiynu diweddar Fferm Wynt Alltwalis.
Rydym wedi apwyntio un o ymgynghorwyr sŵn blaenllaw y DU i ymchwilio i’r mater ac fe gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus; â chydweithrediad Cyngor Sir Gaerfyrddin, gyda thrigolion pryderus, lle cytunwyd y byddai offer monitro sŵn yn cael eu gosod mewn eiddo lleol i gasglu data. Fe osodwyd yr offer yma o fewn dyddiau wedi’r cyfarfod a gynhaliwyd ym mhentref Gwyddgrug.
Cyn gynted ag y bydd data digonol wedi ei gasglu fe gaiff ei ddadansoddi, ac fe gynhelir cyfarfod arall i rannu’r canlyniadau gyda thrigolion lleol ac i ystyried os oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.
Fe gychwynnodd Statkraft arolygu a chynnal y fferm wynt, ar y 4ydd o Ionawr 2010, o’i orsaf Drydan Hydro yn Nghwm Rheidol, ger Aberystwyth, ac maent yn dymuno adeiladu perthynas bositif gyda phob aelod o’r gymuned. Gobeithio bod hyn yn amlwg ar ôl ein hymateb cyflym i’r gofid am sŵn.
Rhagfyr 22ain 2009
Rydym wedi ein calonogi gan i 200 o bobl gwblhau ein arolygon trigolion lleol diweddar, a sicrhewn y byddwn yn gweithredu ar bob un o’ch awgrymiadau ble mae hynny’n bosibl. Fe fyddwn yn ymgymeryd ag arolygon tebyg drwy gydol y prosiect, ond peidiwch anghofio ein bod ar gael bob amser i ateb unrhyw gwestiynau. Cliciwch yma, os gwelwch yn dda, i lawrlwytho crynodeb o gasgliadau’r arolwg.
Rhagfyr 21ain 2009
Mae Stakraft yn falch o gyflwyno’r beic mynydd yr enillodd Mike Harrington o Lanllwni drwy gwblhau ein arolwg trigolion lleol. Llongyfarchiadau Mike a mwynhewch y beicio!
Rhagfyr 1af 2009
Roedd Henry Drake, Rheolwr Gorsaf Bŵer Hydro Rheidol yn falch o fynychu Cymdeithas Gynhaeaf Gaerfyrddin a chyflwyno darlith am Statkraft ym Mhrydain. Cliciwch yma, os gwelwch yn dda, i wylio’r cyflwyniad a oedd yn trafod Fferm Wynt Rheidol ac Alltwalis.
19eg o Dachwedd 2009
Hoffem ddiolch i’r cannoedd o breswylwyr a ddychwelodd ein harolwg diweddar, mae’r canlyniadau yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Fe fydd crynodeb o’r canlyniadau ar gael i’w lawrlwytho o’r safle yma yn ystod yr wythnosau nesaf. Tynnwyd y wobr yn y Masons Arms ddydd Llun 16eg o Dachwedd, gan Landlord y dafarn, Dave Archer ac rydym yn falch o gyhoeddi mai Mr Harrington o Lanllwni enillodd y beic mynydd i oedolion.
11eg o Dachwedd 2009
Gan ein bod wedi darganfod diffyg yn y paent ar bedair llafn o’r deg tyrbin, rydym yn disgwyl pedair set newydd o lafnau i gyrraedd yr wythnos yma ac yn gynnar wythnos nesaf. (h.y. deuddeg llafn newydd i gyd).
Er bod y llafnau diffygiol yma y rhai lleiaf ar y safle ac y bydd y tarfu yn bitw, hoffai Statkraft ymddiheuro am unrhyw anhwylustod posib.
Pendefynom newid y llafnau yma nawr yn hytrach nag aros tan yr Haf, er mwyn sicrhau nad oes yna unrhyw darfu pellach i drigolion lleol pan fydd y fferm wynt yn hollol weithredol.
Hydref 2009
Rydym yn falch o gyhoeddi bod yr is-orsaf wedi ei hegnïo a bod cyfnod comisiynu'r datblygiad nawr ar ddechrau. Yn ystod y comisiynu, fe fydd y tyrbeini yn cael eu profi ac fe gynhyrchir ychydig o bŵer. Fodd bynnag, ni fydd y fferm wynt yn hollol weithredol tan gynnar Rhagfyr.
Mis Medi 2009 – Enw newydd i'r prosiect:
Ar ôl ymgynghori yn ddiweddar gyda thrigolion ward Llanfihangel-ar-Arth a dalwyr eraill, bydd ein prosiect o hyn ymlaen yn cael ei adnabod fel 'Fferm Wynt Alltwalis'ac nid Blaengwen. Derbynion ni gannoedd o ffurflenni syniadau, a diolchwn i'r trigolion a gymerodd ran.
Awst 2009 – Cludo'r Tyrbini:
Cludir a chodir y tyrbini ar y safle yn ystod Awst a Medi 2009. Bydd y tyrbini, y llafnau, y bwlau a'r tyrrau yn cael eu cludo ar long o Ddenmarc i Abertawe. Bydd y cydrannau, wedyn, yn cael eu cludo ar y ffordd i'r safle. Mae rhai cydrannau hyd at 45 o hyd, a bydd angen gwneud trefniadau arbennig ar hyd y ffordd. Ymddiheurwn o flaen llaw am unrhyw oedi neu anghyfleuster y gallai hyn ei achosi i drafnidiaeth. Disgwylir i'r cludo ddechrau yn Awst a phara am tua mis.
Newyddion diweddaraf o'r safle:
Mae'r adeiladu yn mynd yn ei flaen yn dda, a bydd wedi cael ei orffen erbyn Hydref 2009. Mae sylfeini y deg tyrbin gwynt, a'r ffyrdd a'r ceblau dan ddaear wedi'u cwblhau. Bydd y ceblau yn cysylltu’r tyrbini ag is-orsaf, sydd yn cael ei chodi ar hyn o bryd. Ddiwedd Gorffennaf, ailddechreuwyd ar y gwaith o gysylltu'r gwifrau uwchben â'r peilonau trydan. Bydd y gwifrau hyn yn trosglwyddo'r trydan o’r is-orsaf i'r grid genedlaethol, gan gyflenwi tai a busnesau ag 'ynni gwyrdd.'
Gweithio ar y penwythos:
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhoi caniatâd i ddeunyddiau gael eu dosbarthu ar Sadyrnau rhwng 07.00 a 13.00, ac i waith adeiladu gael ei wneud ar y Sul ac ar Sadyrnau rhwng 07.00 a 16.00. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud ar benwythnosau Gwyliau Banc.