View site in Welsh View site in English
Statkraft yng Nghymru
Yn ogystal â bod yn berchen ar Fferm Wynt Alltwalis ac yn ei gweithredu, Statkraft sy biau Cynllun Dŵr-Trydan Rheidol.

Ac yntau’r mwyaf o’i fath yng Nghymru a Lloegr, mae Rheidol wedi generadu ynni adnewyddadwy ers 1962 drwy ddefnyddio’r dŵr glaw sy’n disgyn ar y mynyddoedd gerllaw.

Wedi’i leoli o fewn ac uwchben cwm hyfryd Afon Rheidol, ger Aberystwyth , gwraidd y cynllun yw’r grŵp rhyng-gyswllt o gronfeydd dŵr, argaeau, pibelli dŵr, dyfrbontydd a gorsafoedd ynni, sydd â chyfanswm o 162 kilomedr sgwâr dros yr ardal. Mae cynnyrch blynyddol yr ynni tua 85 GWh – digon o bŵer i 12,350 o gartrefi.

Yn Rheidol y mae canolfan ymwelwyr D.U.Statkraft. lle y gellwch ddysgu mwy am ynni pur, a chael gwybodaeth am yrru o gwmpas y cronfeydd dŵr ucheldirol, hyfryd, a mynd am dro ar hyd llwybr natur braf, neu bysgota brithyll yn un o’r tri llyn.

Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu taith dywysedig o gwmpas yr orsaf bŵer, ffoniwch y switsfwrdd ar 01970-880667, neu gliciwch yma.

I lawrlwytho'r llyfryn, cliciwch yma, os gwelwch yn dda.