Statkraft yw generadur mwyaf Ewrop o ynni adnewyddadwy gyda chynhwyster, ar ol ei osod, o fwy na 14,800MW. Mae’r cwmni’n datblygu ac yn generadu ynni dwr, ynni gwynt, ynni nwy, ynni haul a gwresogi ardal, ac yn chwaraewr mawr ar y cyfnewidfeydd ynni Ewropeaidd.
Agorodd Statkraft ei fferm wynt gyntaf yn 2002, a bellach mae’n berchen ac yn gweithio ar dair fferm wynt ar y tir yn Norwy gyda chynhwyster cyfan, ar ôl ei osod, o 244MW.
Yn y D.U. mae Statkraft yn gweithredu Gorsaf Ynni Dwr 56MW Y Rheidol, ac ar hyn o bryd yn codi Fferm Wynt ar y môr 315MW Sheringham Shoal. Yn ychwanegol i’w bortffolio datblygu, mae’r cwmni hefyd yn aelod o’r consortiwm Forewind sy’n anelu at ddatblygu ffermydd gwynt ar y môr o 13GW yn Dogger Bank ym Môr y Gogledd.
Mae’r cwmni’n cyflogi dros 3,000 o staff mewn mwy na 20 gwlad, a Llywodraeth Norwy yn unig sydd biau hi.
Ewch i Wefan Statkraft am fwy o wybodaeth.